Theatr uwchben y dŵr, arno ac o dan y dŵr / Theatre above, on and under the water

Elen ap Robert, 7 July 2012

Scroll down for English

Fe ddechreuodd y drafodaeth yn rhannol fel canlyniad i leoliad prosiect Pontio, Prifysgol Bangor – yn agos at y dŵr: y Fenai a Llyn Padarn, Llanberis. Fe wnaethom ni ystyried gwahanol enghreifftiau o brofiadau theatrig uwchben y dŵr (sbectaclau yn yr awyr) ar y dŵr (adrodd straeon ar y dŵr / mewn cychod) ac o dan y dŵr (mewn llongau tanfor / Dinas Sain Bangor - gosodiad sain - mewn pwll nofio). Wedyn symud ymlaen i sôn am brofiadau theatrig fel sbectaclau, pethau newydd - rywbeth yn debyg i reid mewn parc hwyl, neu fel rhywbeth gyda stori - wedi’i gysylltu gyda’n perthynas gyda dŵr ar lefel wleidyddol: Tryweryn, trychinebau olew’n dianc, llifogydd, y cyfan yn rhoi golwg newydd i ni ar ddŵr. Mae’n rhywbeth na allwn ei reoli. Ac mae chwedlau hefyd: Cantre’r Gwaelod a Llyn y Fan i enwi dim ond ychydig. Mae dŵr o’n cwmpas yma yng Nghymru ond nid ni sy’n berchen arno - nid eiddo i ni yw’r dŵr, i wneud fel rydym eisiau gydag ef.
Felly, syniadau...
Theatr sy’n Arnofio (yr hen ‘floating restaurant’ wedi’i adael, ac wedyn wedi’i drawsnewid)
Coreograffi: o gwch hwylio. (Byddai modd ei ffilmio o uwchben)
Cysylltu gydag Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol - ail greu’r byd dan dŵr
 mewn bocs gwyn yn Pontio
Cyswllt gyda gwyliau /clybiau hwylio er mwyn cyd-greu.

Wedyn dyma ni’n symud i edrych ar y theatr mewn mannau annisgwyl ac ystyried twll yn y ddaear, gan gyfeirio at le rydym ni nawr ym Mangor, yn aros i’r gwaith ddechrau ar adeiladu’r Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd sbon. Fe aeth hyn â ni’n ôl i Theatr Gwynedd a’r straeon sydd heb gael eu hadrodd. Gallai’r siop, fydd yn bresenoldeb dros dro i Brifysgol Bangor a Pontio yn y cyfnod interim yma, fod yn ganolfan dros dro i atgofion, ar gyfer y straeon hyn - lle i’w tynnu i mewn - i leisiau gael eu clywed. Fe wnaethom ni benderfynu bod angen i ni gydnabod y straeon hyn, cydnabod y lleisiau.

Hefyd efallai ymweld eto â’r perfformiad cyntaf i gael ei lwyfannu erioed yn Theatr Gwynedd, yn ôl yn 1974, a gwneud hynny yn nhymor cyntaf Pontio yn 2014, 40 mlynedd yn ddiweddarach ac ym mlwyddyn canmlwyddiant geni Dylan Thomas.

——————————————————————————————
The discussion started in part as a result of the location of the Pontio project, Bangor University - proximity to water: the Menai straits and Llanberis lake. We considered different examples of theatrical experiences above ( aerial spectacles) on (storytelling on the water / in boats ) and under ( in u boats / Bangor City of Sound - sound installation - in a swimming pool) We moved on to talk about theatrical experiences as spectacles, novelties - something akin to the theme park ride, or as something with a story - linked to our relationship with water on a political level: Tryweryn, oil slick disasters, floods all give us a different perspective on water. It is soemthing out of our control. And there are myths too: Cantre'r Gwaelod, and Llyn y Fan to name a few. Water surrounds us here in Wales but we don't own it - it is not ours to do with it what we want.

So ideas ...

a Floating Theatre ( the abandoned floating restaurant transformed)
Coreography : of sailing boat . (Could be filmed from above)
Linking in with Ocean Sciences school of the University - recreating the underwater world in the white box in Pontio
Linking with sailing festivals/ clubs to co-create

We moved to looking at the theatre in unexpected places and considered a hole in the ground, referring to our present position in Bangor a awaiting the building of a brand new Arts and Innovation Centre to start. This took us back to Theatr Gwynedd and the stories that have not been told. The shop, which will be a temporary presence for Bangor University and Pontio in this interim period, could be the memory base for these stories - the place to draw them in - for voices to be heard. We decided that we need to acknowledge the stories, to acknowledge the voices.

And also possibly revisit the very first performance ever staged in Theatr Gwynedd back in 1974, in Pontio'r opening season in 2014, 40 years on and in the year of the centenary of Dylan Thomas' birth.

Tags:

non traditional theatre spaces, outdoor theatre, water, dŵr, mannau theatr heb fod yn draddodiadol, theatr awyr agored